Your search terms
Search Do Politics Centre Only
 
  • The Electoral Commission

About the Electoral Commission

Section navigation

 
You are here: Electoral Commission > Guidance > Do Politics > Case studies index >
 
Go to the Electoral Commission homepage
What are you working on?
Sign up for newsletter

making your mark


Case studies "Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: Pecyn Etholiad i Ysgolion"

A-C | D-F | G-I | J-L | M-O | P-R | S-U | V-Z |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: Pecyn Etholiadau i Ysgolion

 

Crynodeb or Gweithgaredd

 

Pecyn i ysgolion cynradd ble mae ysgolion cynradd/uwchradd yn cynorthwyo i drefnu a rhedeg etholiadau blynyddol cyngor yr ysgol

 

Nodau ac amcanion y gweithgaredd 

1. I roi adnoddau i athrawon i redeg etholiad.. 2.  I ddarparur holl ddeunyddiau perthnasol sydd eu hangen. 3. I ddarparu cefnogaeth a chyfarwyddyd ychwanegol ar gyfer yr etholiad yn ôl yr angen 4. I roi dealltwriaeth i ddisgyblion or broses ddemocrataidd.

 

Disgrifiad or gweithgaredd

 

Ar ôl cyflwyno Rheoliadau Cynghorion Ysgol (Cymru) 2005, mae disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru wedi cael y cyfle i sefyll ar gyngor eu hysgol. Gan mai Cymru ywr sir gyntaf i sicrhau hyn drwy ddeddfwriaeth, fe deimlwyd ei fod yn bwysig i Wasanaethau Etholiadol i gefnogi ysgolion o ran cynnal eu hetholiadau cyntaf.  I hwyluso hyn, fe ddatblygwyd pecyn adnodd i helpu athrawon i gynnal etholiad.  Maer deunyddiau sydd eu hangen i gynnal etholiad wedi cael eu cynnwys yn y pecyn yma (papurau pleidleisio, cardiau pleidleisio ac ati) a phopeth y byddai athro/athrawes ei angen i redeg a chynnal y broses etholiadol. Maer pecyn wedi cael ei ddefnyddio gan sawl ysgol yn y Fwrdeistref Sirol ers 2007. I gychwyn, fe fydd Staff y Gwasanaethau Etholiadol yn mynychur ysgol i helpu i redeg yr etholiad. Yna, fe gytunir y bydd yr ysgol yn rhedeg etholiadau yn y dyfodol gyda chefnogaeth oddi ar-safle gan Wasanaethau Etholiadol.

 

Beth aeth yn dda?

 

Oherwydd cyfyngiadau o ran gwaith ac amser, mae staff y Gwasanaethau Etholiadau yn cael eu cyfyngu o ran faint o amser gallan nhw wario ar waith cyfranogiad mewn ysgolion. Or herwydd, wrth gyflwyno'r pecyn etholiadol i ysgolion, roedd hyn yn ffordd o ganiatáu i ddeunydd cyfarwyddyd defnyddiol a chywir i gael ei ddosbarthu, i gynorthwyo athrawon mewn llawer mwy o ysgolion drwy gydol y Fwrdeistref Sirol.  Ers cyflwynor pecyn,, mae nifer yr ysgolion syn gofyn am flychau pleidleisio a sgriniau pleidleisio i gynnal etholiadau ysgol eu hunain wedi cynyddu hefyd.

 

Beth na aeth mor dda?

 

Maer prosiect wedi bod yn ymarfer positif, ac nid ydym wedi derbyn dim heblaw am adborth positif gan ddisgyblion yn ogystal â gan staff.

 

Sut y gwerthuswyd y gweithgaredd?

 

Mae ffurflen werthuso ar gael ym mhob pecyn, er mwyn ir athrawon eu cwblhau au dychwelyd

 

I ba raddau y cyflawnwyd y nodau ar amcanion?

 

1. Nawr, gall pob athro/athrawes gael gafael ar y pecyn, unai drwyr rhyngrwyd neu drwy gysylltu âr Comisiwn Etholiadol. 2. Mae athrawon yn ymwybodol y gallan nhw gysylltu âr Comisiwn Etholiadol i gael unrhyw gefnogaeth, fel mynychur etholiad i ddosbarthu sgwrs ar etholiadau neu i roi cyngor cyn yr etholiad. 3. Nod y pecyn yw rhoi cipolwg i bobl ifanc or broses ddemocrataidd. Gan fod etholiadau cyngor yr ysgol yn cael eu cynnal pob blwyddyn yn ystod bywyd ysgol disgybl, dylai disgyblion ddod yn gyfarwydd gydar broses, a theimlon gyfforddus yn pleidleisio mewn etholiadau lleol a seneddol unwaith maen nhwn troin 18.

 

Graddfa amser

 

Gan fod y pecyn wedii ddatblygu erbyn hyn, caiff y raddfa amser ei benderfynu gan yr ysgolion eu hunain.  Yn amlwg, fe fyddai unrhyw ddatblygiadau o fewn arferion etholiadol yn cael eu diweddaru yn y pecyn, a bydd yn cymryd tua 2 ddiwrnod y flwyddyn i wneud hyn.

 

Cyllideb gyffredinol

 

Costau Argraffu - £200. Cyfraniad ar gyfer amser staff

 

Nifer y bobl syn gweithio ar y gweithgaredd

 

1 person i ddatblygu / diweddarur pecyn

 

Colophon