Your search terms
Search Do Politics Centre Only
 
  • The Electoral Commission

About the Electoral Commission

Section navigation

 
You are here: Electoral Commission > Guidance > Do Politics > Case studies index >
 
Go to the Electoral Commission homepage
What are you working on?
Sign up for newsletter

making your mark


Case studies "Cyngor Sir Gaerfyrddin: Prosiect Democratiaeth 1 Pobl Ifanc Sir Gaerfyrddin"

A-C | D-F | G-I | J-L | M-O | P-R | S-U | V-Z |

Cyngor Sir Gaerfyrddin: Prosiect Democratiaeth 1 Pobl Ifanc Sir Gaerfyrddin

Fe anelwyd y fenter hon gan y cyngor lleol at bobl ifanc wrth ddynesu at etholiadau lleol 2004.  Rhoddwyd hysbysebion syn hyrwyddor etholiadau mewn cyhoeddiadau lleol ac yn newyddion cymunedol y cyngor. Hefyd, fe ysgrifennodd y cyngor at bob ysgol uwchradd ac ir prif goleg addysg bellach yn yr ardal, yn cynnig sesiynau a gweithdai oedd yn canolbwyntio ar:

  • swyddogaethaur cyngor
  • bopeth ynghylch cynrychiolwyr lleol
  • pam ei fod yn bwysig pleidleisio
  • sut i gael ar y gofrestr etholiadol

Fe drosglwyddwyd y neges drwy sawl cyflwyniad, fideos, a gweithgareddau ymarferol ble roedd pobl ifanc yn cymryd cyfrifoldeb am bortffolio penodol, a dadlaur achos am gael mwy o arian ar gyfer prosiectau penodol.

Hefyd, fe gynhyrchwyd pecyn syn cynnwys crysau-t, marciau llyfrau, matiau diod, baneri a hongwyr drysau, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol ar waith y cyngor lleol.  Fe ddosbarthwyd hyn i bob person ifanc oedd yn cymryd rhan yn y gweithdai.

Yn ogystal, fe ddosbarthwyd cardiau pen-blwydd gan Brif Weithredwr y Cyngor i bobl ifanc yn y sir oedd yn troi yn 18.

Fe sylweddolodd y rhai hynny oedd yn trefnur cynllun fod prinder mawr o ran gwybodaeth ymysg pobl ifanc ar faterion fel swyddogaethau cyngor y sir, maint ei gyllideb a phwy oedd yn eu cynrychioli nhw. Er gwaethaf hyn, roedd pobl ifanc yn awyddus i ddadlau am faterion lleol a chenedlaethol, ac roedden nhwn pryderun fawr ynghylch materion oedd yn effeithio ar eu bywydau pob dydd.  Roed y cyngor lleol yn bwriadu sefydlu cyswllt ym meddyliaur rhai hynny oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, rhwng materion fel hyn a bwrw pleidlais.

Hefyd, roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn bresennol mewn sawl cynhadledd a digwyddiad proffil uchel gydar bwriad o ledaenur neges yma tu allan ir ystafell ddosbarth.  Un digwyddiad or fath oedd Confensiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin, a welodd miloedd o bobl ifanc o bob rhan or wlad yn mynd ir Maes Sioe Tair Sir yng Nghaerfyrddin.

O dan amgylchiadau cyffredin, fe fyddair Cyngor Sir yn mynd â stondin bychan gyda phroffil eithaf isel, ond ar yr achlysur yma, rhoddwyd pwyslais mawr ar hyrwyddor etholiadau.  Roedd swyddogion y cyngor allan ymysg y bobl ifanc, yn siarad am bwysigrwydd yr etholiadau oedd ar y gweill, an dosbarthu gwybodaeth a rhoddion am ddim.

Cyllideb gyffredinol: £7,000

Nifer y bobl yn gweithio ar y prosiect: hyd at 10

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ar redeg digwyddiad tebyg, cysylltwch â Peter Jones, Swyddog Canlyniadau Dros Dro a Rheolwr y Gwasanaethau Statudol yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin, e-bost: pjjones@carmarthenshire.gov.uk

 

Colophon