Section navigation
Case studies "Cyngor Sir Gaerfyrddin: Prosiect Democratiaeth 1 Pobl Ifanc Sir Gaerfyrddin"
Cyngor Sir Gaerfyrddin: Prosiect Democratiaeth 1 Pobl Ifanc Sir Gaerfyrddin
Fe anelwyd y fenter hon gan y cyngor lleol at bobl ifanc wrth ddynesu at etholiadau lleol 2004. Rhoddwyd hysbysebion syn hyrwyddor etholiadau mewn cyhoeddiadau lleol ac yn newyddion cymunedol y cyngor. Hefyd, fe ysgrifennodd y cyngor at bob ysgol uwchradd ac ir prif goleg addysg bellach yn yr ardal, yn cynnig sesiynau a gweithdai oedd yn canolbwyntio ar:
- swyddogaethaur cyngor
- bopeth ynghylch cynrychiolwyr lleol
- pam ei fod yn bwysig pleidleisio
- sut i gael ar y gofrestr etholiadol
Fe drosglwyddwyd y neges drwy sawl cyflwyniad, fideos, a gweithgareddau ymarferol ble roedd pobl ifanc yn cymryd cyfrifoldeb am bortffolio penodol, a dadlaur achos am gael mwy o arian ar gyfer prosiectau penodol.
Hefyd, fe gynhyrchwyd pecyn syn cynnwys crysau-t, marciau llyfrau, matiau diod, baneri a hongwyr drysau, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol ar waith y cyngor lleol. Fe ddosbarthwyd hyn i bob person ifanc oedd yn cymryd rhan yn y gweithdai.
Yn ogystal, fe ddosbarthwyd cardiau pen-blwydd gan Brif Weithredwr y Cyngor i bobl ifanc yn y sir oedd yn troi yn 18.
Fe sylweddolodd y rhai hynny oedd yn trefnur cynllun fod prinder mawr o ran gwybodaeth ymysg pobl ifanc ar faterion fel swyddogaethau cyngor y sir, maint ei gyllideb a phwy oedd yn eu cynrychioli nhw. Er gwaethaf hyn, roedd pobl ifanc yn awyddus i ddadlau am faterion lleol a chenedlaethol, ac roedden nhwn pryderun fawr ynghylch materion oedd yn effeithio ar eu bywydau pob dydd. Roed y cyngor lleol yn bwriadu sefydlu cyswllt ym meddyliaur rhai hynny oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, rhwng materion fel hyn a bwrw pleidlais.
Hefyd, roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn bresennol mewn sawl cynhadledd a digwyddiad proffil uchel gydar bwriad o ledaenur neges yma tu allan ir ystafell ddosbarth. Un digwyddiad or fath oedd Confensiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin, a welodd miloedd o bobl ifanc o bob rhan or wlad yn mynd ir Maes Sioe Tair Sir yng Nghaerfyrddin.
O dan amgylchiadau cyffredin, fe fyddair Cyngor Sir yn mynd â stondin bychan gyda phroffil eithaf isel, ond ar yr achlysur yma, rhoddwyd pwyslais mawr ar hyrwyddor etholiadau. Roedd swyddogion y cyngor allan ymysg y bobl ifanc, yn siarad am bwysigrwydd yr etholiadau oedd ar y gweill, an dosbarthu gwybodaeth a rhoddion am ddim.
Cyllideb gyffredinol: £7,000
Nifer y bobl yn gweithio ar y prosiect: hyd at 10
Os hoffech chi ragor o wybodaeth ar redeg digwyddiad tebyg, cysylltwch â Peter Jones, Swyddog Canlyniadau Dros Dro a Rheolwr y Gwasanaethau Statudol yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin, e-bost: pjjones@carmarthenshire.gov.uk