Section navigation
Gwneud eich marc
|
Mae dros 46 miliwn o bobl wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau yn y DU. Dylai pleidleiswyr fedru ‘cwrdd â’u marc’ yn rhwydd a’n hyderus, gan wybod y bydd eu pleidlais yn cael ei chyfrif yn y ffordd y gwnaethon nhw fwriadu. Ni ddylai papurau pleidleisio a deunyddiau eraill i bleidleiswyr atal hyn rhag digwydd. O gyfarwyddyd ar y fformat, ar hygyrchedd ac ar ddefnyddioldeb deunyddiau i bleidleiswyr i enghreifftiau sy’n gallu cael eu llawrlwytho, rydym wedi datblygu’r adnodd yma i gynorthwyo i wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi anghenion y pleidleiswyr yn gyntaf wrth ddylunio deunyddiau i bleidleiswyr o fewn y ddeddfwriaeth gyfredol, ac wrth ystyried newidiadau i ddyluniadau yn y dyfodol.
Defnyddiwch y dolenni isod i gychwyn. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect gwneud eich marc, sy’n cynnwys ein hargymhellion ar gyfer gwneud newidiadau i ddyluniad y deunyddiau rhagnodedig cyfredol i bleidleiswyr, yn ein crynodeb o’r prosiect (PDF). Rydym yn awyddus i glywed eich sylwadau a’ch cynigion ynghylch ein hadnoddau - cysylltwch â ni. |
|
|
Yma, gallwch chi gael gafael ar adnoddau dylunio sy’n cwrdd â gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol. Mae ein cyfarwyddyd yn rhyngweithiol, felly gallwch chi gyfeirio’n gyflym at y cyfarwyddyd a’r enghreifftiau dylunio sydd ei angen/eu hangen arnoch chi.
Edrychwch ar ein cyfarwyddyd a’n deunyddiau enghreifftiol i weinyddwyr etholiadol |
Mae ein cyfarwyddyd ar gyfer llunwyr polisi llywodraeth yn cyfeirio at sut gallai llywodraethau wella dyluniad y deunyddiau i bleidleiswyr - y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u nodi mewn deddfwriaeth.
Edrychwch ar ein cyfarwyddyd i lunwyr polisi llywodraeth |



Croeso i’n adnodd dylunio ar ddeunyddiau i bleidleiswyr ar gyfer gweinyddwyr etholiadol a llunwyr polisi llywodraeth.